Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
2 Hydref 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5848
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Gofynnwyd y 12 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Ni chafwyd unrhyw Gwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.00
Gwnaeth Vaughan Gething ddatganiad ar: Mis Hanes Pobl Dduon
Gwnaeth Mike Hedges ddatganiad ar: Nodi 45 mlynedd o Orsaf Radio Sain Abertawe
Gwnaeth Russell George ddatganiad ar: Dathlu 160 mlynedd o Siop Archebion drwy’r Post Pryce-Jones a 140 mlynedd ers agor Warws Brenhinol Cymreig Pryce-Jones
Gwnaeth Huw Irranca-Davies ddatganiad ar: Nodi diwrnod blynyddol Beicio i’r Senedd, a gaiff ei ddathlu heddiw.
Dechreuodd yr eitem am 15.07
NDM7157 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru), Delyth Jewell (Plaid Cymru), a David Rowlands (Plaid Brexit) yn aelodau o'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.08
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7148 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 02-19 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 18 Medi 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9
2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
4 |
12 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 15.33
NDM7149 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 03-19 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 19 Medi 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9
2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.38
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7143 David Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r rhwydwaith cyfoethog ac amrywiol o seilwaith diwydiannol hanesyddol ledled Cymru.
2. Yn nodi'r potensial o ran yr economi, adfywio a thrafnidiaeth integredig o ail-agor hen linellau rheilffordd a thwneli segur ledled Cymru.
3. Yn cydnabod yr heriau ymarferol ac ariannol o ddod â seilwaith o'r fath yn ôl i ddefnydd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i anelu at gael perchenogaeth ar seilwaith o'r fath a fyddai'n helpu i chwilio am gyfleoedd ariannu.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i chwarae eu rhan wrth archwilio'r cyfleoedd ymarferol ar gyfer ailagor seilwaith o'r fath ledled Cymru.
Cyd-gyflwynwyr
Leanne
Wood (Rhondda)
Vikki
Howells (Cwm Cynon)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
12 |
3 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.34
NDM7150 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Dechrau Ffres: Ymchwiliad i ddeintyddiaeth yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.00
NDM7151 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Cefnogi a hybu’r Gymraeg a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Medi 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.36
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7153 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi canlyniadau TGAU a safon uwch yr haf hwn yng Nghymru.
2. Yn gresynu bod canlyniadau TGAU A*-C haf 2019 yn waeth na chanlyniadau haf 2007.
3. Yn gresynu ymhellach at y gostyngiad yng nghanran y dysgwyr sy'n sicrhau graddau TGAU A*-C mewn Saesneg, mathemateg a Chymraeg ail iaith.
4. Yn nodi bod ymchwil Llywodraeth Cymru wedi canfod bod perfformiad yn erbyn dangosyddion allweddol ar gyfer blynyddoedd 4-9 wedi dirywio.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod ei methiant i wella cyrhaeddiad TGAU a safon uwch yn sylweddol yng Nghymru ac ymddiheuro i ddisgyblion, rhieni ac ysgolion am eu siomi.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
41 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Ar ôl pwynt 1, dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn llongyfarch disgyblion, athrawon a staff ysgolion am eu gwaith caled ac am set gref o ganlyniadau.
Yn croesawu:
a) bod canlyniadau Safon Uwch yr haf hwn wedi parhau i fod ar y lefel uchaf yn eu hanes;
b) bod Cymru wedi gwella ei safle o ran Safon Uwch, mewn cymhariaeth â rhanbarthau Lloegr a Gogledd Iwerddon, ar gyfer pob gradd ac wedi’i graddio’n gyntaf ar gyfer A* am y tro cyntaf erioed;
c) bod y canlyniadau TGAU yn gyffredinol wedi dangos gwelliant yr haf hwn;
d) bod cynnydd o dros 50 y cant yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer TGAU gwyddoniaeth ers 2016, a bod cynnydd eleni yng nghanrannau’r disgyblion sy’n ennill graddau A*-A ac A*-C mewn pynciau gwyddonol;
e) bod nifer y disgyblion sy’n cael graddau A*-C yn y cwrs llawn Cymraeg fel Ail Iaith wedi cynyddu 12.5 y cant;
f) bod nifer y disgyblion a safodd TGAU Llenyddiaeth Saesneg wedi cynyddu 22.8 y cant, a bod 2,800 yn rhagor wedi ennill graddau A*-C o gymharu â 2018.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
23 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 5 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod dysgwyr TGAU a safon uwch Cymru yn cael eu niweidio gan newidiadau diweddar sy'n glastwreiddio atebolrwydd ysgolion ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r duedd hon.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
2 |
36 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7153 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi canlyniadau TGAU a safon uwch yr haf hwn yng Nghymru.
2. Yn llongyfarch disgyblion, athrawon a staff ysgolion am eu gwaith caled ac am set gref o ganlyniadau.
3. Yn croesawu:
a) bod canlyniadau Safon Uwch yr haf hwn wedi parhau i fod ar y lefel uchaf yn eu hanes;
b) bod Cymru wedi gwella ei safle o ran Safon Uwch, mewn cymhariaeth â rhanbarthau Lloegr a Gogledd Iwerddon, ar gyfer pob gradd ac wedi’i graddio’n gyntaf ar gyfer A* am y tro cyntaf erioed;
c) bod y canlyniadau TGAU yn gyffredinol wedi dangos gwelliant yr haf hwn;
d) bod cynnydd o dros 50 y cant yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer TGAU gwyddoniaeth ers 2016, a bod cynnydd eleni yng nghanrannau’r disgyblion sy’n ennill graddau A*-A ac A*-C mewn pynciau gwyddonol;
e) bod nifer y disgyblion sy’n cael graddau A*-C yn y cwrs llawn Cymraeg fel Ail Iaith wedi cynyddu 12.5 y cant;
f) bod nifer y disgyblion a safodd TGAU Llenyddiaeth Saesneg wedi cynyddu 22.8 y cant, a bod 2,800 yn rhagor wedi ennill graddau A*-C o gymharu â 2018.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
8 |
15 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y gloch a gohiriwyd y cyfarfod gan ailgynnull am 18.38 ar gyfer y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 18.42
NDM7152 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Gofalu am gartrefi gofal: sut y gallem wneud mwy i ofalu am gartrefi gofal yng Nghymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.14
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 8 Hydref 2019